Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 31 Ionawr
2017
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4079
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1 - 9. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.20
I’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth:
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi yn dilyn cau swyddfa'r Adran Gwaith a Phensiynau yn Llanelli, gan arwain at golli 146 o swyddi?
Dechreuodd yr eitem am 14.27
I’r Prif Weinidog:
Dawn
Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): Yn
dilyn cyhoeddiad Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn gwahardd
gwladolion o nifer o wledydd lle mae'r rhan fwyaf o bobl yn
Fwslemiaid, rhag teithio i'r Unol Daleithiau am 90 niwrnod, pa
asesiad y mae Prif Weinidog Cymru wedi'i wneud o effaith hyn ar
Fwslemiaid yng Nghymru sydd â chenedligrwydd
deuol?
Dechreuodd yr eitem am 14.44
Dechreuodd yr eitem am 15.02
Dechreuodd yr eitem am 16.04
Dechreuodd yr eitem am 16.51
NDM6218 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau
Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) 2017 yn cael ei llunio
yn unol â'r fersiwn ddrafft a
osodwydyn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Rhagfyr 2016.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.57
NDM6219 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau
Safonau'r Gymraeg (Rhif 6) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r
fersiwn ddrafft a
osodwydyn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Rhagfyr 2016.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.10
NDM6217
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod y cynnydd sydd wedi'i wneud mewn partneriaeth â
chyrff cyhoeddus eraill a'r trydydd sector i hybu mwy o
gydraddoldeb yng Nghymru, fel y dangosir yn yr Adroddiad Blynyddol
am Gydraddoldeb 2015-2016 ac Adroddiad Interim Gweinidogion
Cymru am Gydraddoldeb 2016, a
2.
Yn ailddatgan ymrwymiad y Cynulliad i wneud Cymru'n wlad decach a
mwy cyfartal.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1.
Paul Davies (Preseli Sir
Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i egluro'r cynnydd a wnaed mewn perthynas
â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014,
Cod Ymarfer Rhan 2, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol
weithio mewn partneriaeth â phobl i gydgynhyrchu atebion i
fodloni eu canlyniadau llesiant personol.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 2.
Paul Davies (Preseli Sir
Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i roi cynlluniau gweithredu effeithiol ar
waith yn ymwneud â'r cynnydd o ran cydraddoldeb yng Nghymru,
gydag amcanion a chanlyniadau mesuradwy wedi'u creu ar gyfer pob
adroddiad yn y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
28 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6217
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod y cynnydd sydd wedi'i wneud mewn partneriaeth â
chyrff cyhoeddus eraill a'r trydydd sector i hybu mwy o
gydraddoldeb yng Nghymru, fel y dangosir yn yr Adroddiad Blynyddol
am Gydraddoldeb 2015-2016 ac Adroddiad Interim Gweinidogion
Cymru am Gydraddoldeb 2016, a
2. Yn ailddatgan ymrwymiad y Cynulliad i wneud Cymru'n wlad decach a mwy cyfartal.
3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro'r cynnydd a wnaed mewn
perthynas â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
(Cymru) 2014, Cod Ymarfer Rhan 2, sy'n ei gwneud yn ofynnol i
awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth â phobl i
gydgynhyrchu atebion i fodloni eu canlyniadau llesiant
personol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 18.10
Daeth y cyfarfod i ben am 18.11
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 1 Chwefror 2017